About Castell Eilean Donan
Fortifications, Historic, Monuments And Memorials, Interesting Places, Castles, Monuments
Mae Castell Eilean Donan ar ynys o'r un enw ym man cyfarfod 3 llyn, Loch Duich, Loch Long a Loch Alsh, yn Ucheldir yr Alban. Ystyr 'Eilean' yw 'Ynys', ac mae'n debyg daeth yr enw 'Donan' o Sant Donan; daeth o i'r ardal tua 580ac.
Roedd yno caer yr Oes Haearn, ac adeiladwyd castell mawr, tua 3.000 medr sgwâr, gan Kenneth Mackenzie ar y safle yn gynnar yn y 13g, yn amddiffynfa yn erbyn y Llychlynwyr.
Llehawyd maint y castell i 528 medr sgwâr tua 1400, ond adeiladwyd estyniad yn 16g.
Ym 1719, amddiffynnodd y castell gan 46 o Sbaenwyr, oedd yn cefnogi'r Jacobitiaid yn erbyn y Saeson, rhan o gynllun i anfon ail armada, a rwystrodd gan dywydd gwael. Cipwyd a dinistriodd y castell gan y Saeson.