About Eglwys Sant Anno, Llananno
Religion, Churches, Interesting Places, Other Churches
Cofrestrwyd Eglwys Sant Anno, a leolir ym mhentref bychan Llananno, Powys gan Cadw fel adeilad rhestredig Gradd II* ar 29 Gorffennaf 2004 (Rhif Cadw: 82991; cyfeirnod grid: SO0956974346). Saif 15 km i'r gogledd o dref Llandrindod, ar ochr orllewinol i'r A483, ger Fferm Glanrafon. Aadeiladwyd yr eglwys yn wreiddiol yn yr Oesoedd Canol, yn ôl pob tebyg, a'i hail-adeiladu yn 1876-7 gan David Walker, pensaer o Lerpwl, ond cadwyd y sgrîn pren o'r 15g yn saff gan ei hail-leoli a'i thrwsio yn 1880 ac eilwaith yn 1960. Ystyrir hon yn un o'r sgriniau pren mwyaf coeth yng Nghymru. llifa afon Ithon ychydig fetrau o'r brif fynedfa.