About Eglwys Sant Beuno, Llanycil
Religion, Architecture, Historic Architecture, Churches, Interesting Places, Destroyed Objects, Other Churches
Saif Eglwys Sant Beuno ym mhentref Llanycil, ar lan Llyn Tegid, rhwng y llyn a'r A494; cyfeirnod OS: SH9146934868. Fe'i cofnodir am y tro cyntaf yn 1291.
Ers 2016, fe'i haddaswyd yn amgueddfa ar Mari Jones, ac ni cheir gwasanaethau.
Yn agos at yr eglwys roedd yma unwaith ffynnon o'r un enw: Ffynnon Beuno. Yr ochr arall i'r briffordd mae hen Reithordy. Mae'r eglwys wedi'i chofrestru'n Gradd II a'i chodi o garreg lleol. Yn haenau isaf y waliau gellir gweld brics Rhufeinig a cherrig a gludwyd yma o Gaer Gai, hen gaer Rufeinig a leolir tua milltir i gyfeiriad Llanuwchllyn.