About Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel-y-pennant

Religion, Churches, Interesting Places, Other Churches

Saif Eglwys Sant Mihangel ym mhentref bychan Llanfihangel-y-pennant rhwng cartref Mari Jones a Chastell y Bere yn Nyffryn Dysynni, ger Tywyn, Gwynedd. Mae'r eglwys hynafol hon yn dyddio i ganrif 12, er bod y llan o'i chwmpas yn llawer hŷn. Enw'r plwyf yw Bro Ystumanner.

Fe'i cofrestrwyd gan Cadw ar 17 Mehefin 1966 yn Radd II*, a hynny oherwydd ei hoed a nodweddion o'r Oesoedd Canol, fel y fedyddfaen, nenfwd a'r rhan fwyaf o'i muriau. Yng nghanrif 15 codwyd estyniad ar ochr ogleddol yr eglwys: capel bychan; yno, yn 2016 roedd arddangosfa o ddogfennau'n ymwneud â Mari Jones. Ceir ffenestr liw o 1869 sy'n darlunio seintiau Mihangel a Gabriel o bobty Crist y tu ôl i'r allor.

Source From: Wikipedia
Gwynedd, Wales, United Kingdom, LL36 9TR

Nearest places in Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel-y-pennant