About Eglwys Tysilio a Mair

Religion, Churches, Interesting Places, Other Churches

Eglwys a leolir ym Meifod, Sir Drefaldwyn, yw Eglwys Tysilio a Mair. Yn y 6g sefydlwyd cymdeithas grefyddol ym Meifod gan Gwyddfarch, a daeth yn brif eglwys Powys. Eglwys o bren fyddai rywle ar y safle hwn ar y dechrau, gydag adeiladau syml o’i hamgylch i’r mynachod neu’r clerigwyr fyw ynddynt.

Adeiladwyd sawl eglwys ar y safle hwn. Rhwng y 10fed a'r 12g yr oedd awr anterth yr eglwys. Byddai pobl o bell ac agos yn dod yno ar bererindodau, ac mae’n debyg fod sawl tywysog o Bowys wedi ei gladdu yma. Byddai cael eich claddu mewn mynwent eglwys a oedd yn gysylltiedig â sant yn cryfhau eich siawns o gael mynd i’r nefoedd – ac felly byddai unigolion yn rhoi arian a rhoddion o dir i’r eglwysi lleol.

Source From: Wikipedia
A495, Powys, Wales, United Kingdom, SY22 6DF

Nearest places in Eglwys Tysilio a Mair