About Hergest (plas)

Historic Architecture, Architecture, Interesting Places, Other Buildings And Structures

Plasdy Cymreig a godwyd yn yr Oesoedd Canol ar safle sy'n gorwedd yn Swydd Henffordd, Lloegr, bellach yw Hergest. Fe'i lleolir ym mhlwyf Ceintun (Saesneg: Kington), tua 3 milltir yr ochr draw i'r ffin rhwng Maesyfed (Powys), Cymru a Swydd Henffordd. Mae'n enwog fel y man lle diogelwyd Llyfr Coch Hergest, un o'r llawysgrifau Cymraeg pwysicaf, sy'n cynnwys testunau cynnar o chwedlau'r Mabinogion.

Roedd Hergest yn gartref i un o ganghennau teulu'r Fychaniaid. Sylfaenwyd y plas yn y 15g gan Tomas ap Rosier Fychan, un o feibion Rhosier Fychan o blas Brodorddyn. Roedd yn frawd i Roger Vaughan o Dretŵr, Brycheiniog.

Source From: Wikipedia
Hergest Road, Herefordshire, England, United Kingdom, HR5 3AR

Nearest places in Hergest (plas)