About Neuadd y Palé

Historic Architecture, Architecture, Interesting Places, Other Buildings And Structures

Plasty Jacobeaidd Gradd II* yw Neuadd y Palé neu Palé Hall a godwyd rhwng 1869-1871 gan y peiriannydd rheilffyrdd Henry Robertson A.S. Saif ger pentref Llandderfel yn Nyffryn Edeyrnion, ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Ddinbych. Fei hatgyweiriwyd yn y 1980au ac mae bellach yn westy.

Roedd y 'Neuadd', fel y'i gelwid yn un o'r adeiladau cyntaf yng Nghymru i greu ei thrydan ei hun ar ddechrau 20c a chynhyrchwyd nwy yma hefyd ar gyfer y plasty a phentref Llandderfel, a leolir tua 1.2 km i'r de o bentref Llandderfel. Yn 1889 arhosodd y frenhines Victoria yma am 10 diwrnod, a chafodd ei diddori gan y sipsi Cymreig John Roberts a naw o'i feibion. Arhosodd Winston Churchill yma yn y 1950au.

Source From: Wikipedia
B4402, Gwynedd, Wales, United Kingdom, LL23 7HY

Nearest places in Neuadd y Palé