About Tafarn yr Hen Lew Du, Aberystwyth
Historic Architecture, Architecture, Interesting Places, Pubs, Foods, Tourist Facilities, Other Buildings And Structures
Yr Hen Lew Du (neu, ar lafar, y Llew Du neu'r Llew, ac weithiau gan drigolion hŷn, Y Blac Leion Fach) yw un o dafarnhau hynaf a mwyaf enwog Aberystwyth. Saif ar dop Heol y Bont ynghannol y dref.
Roedd yn fan cyfarfod y Cambrian Society a sefydlwyd yn 1822 a hefyd yn fan cyfarfod yr Union Club Society a sefydlwyd yn 1834. Roedd gan y dafarn stablau ar Heol y Wig. Defnyddiwyd yr enw 'Hen' o flaen 'Llew Du' i'w wahaniaethu rhag tafarn y Gogerddan Arms gerllaw a oedd hefyd yn cael ei alw'r 'Llew Du' ar adegau (llew du yw prif ddelwedd arfbais teulu Gogerddan a'r rheswm fod gymaint o dafarnhau Ceredigion gyda thafarndai o'r enw 'Llew Du').
Ceir sawl cofnod am y dafarn ar hyd ei hoes: