About Y Cob, Porthmadog
Historic Architecture, Architecture, Interesting Places, Other Buildings And Structures
Cynlluniwyd Y Cob, Porthmadog gan William Alexander Madocks. Pasiwyd deddf i adeiladu’r Cob ym 1807 a phrynodd Madocks Fferm Penrhyn Isaf i gael meini i adeiladu’r Cob. Bwriad gwreiddiol Madocks oedd sychu ei dir ar Traeth Mawr, ond aeth gam ymlaen i osod ffordd i Borthdinllaen, gyda fferiau'n mynd o Borthdinllaen i'r Iwerddon.
Gweithiodd dros 400 o bobl, ac adeiladwyd gweithdai a llety i’r geithwyr yn Boston Lodge. Agorwyd y Cob ar 17 Medi 1811, a chynhaliwyd gwledd ac eisteddfod. Dinistriwyd rhan o’r Cob gan storm ar 14 Chwefror 1812; codwyd swm sylweddol gan bobl leol, ac ailagordwyd y Cob ym 1814.
Roedd tollborth ar y Cob o’r dechrau, tan 2003, pan prynodd Llywodraeth Cymru’r safle.